• Troswch i'r Saesneg
  • Amdanom ni
  • Nodau’r Ganolfan
  • Manteision i Fusnesau Bach a Chanolig
  • Cysylltu â ni
  • Digwyddiadau i ddod
  • Digwyddiadau blaenorol/Adolygiadau

Tai teras newydd

Amdanom ni

Penseiri

Mae’r Ganolfan Cefnogi Technoleg a Datblygu Adeiladu yma i gynnig ei chefnogaeth lawn i fusnesau adeiladu bach a chanolig, gan roi cyngor adeiladu di-duedd.

Nodau’r Ganolfan yw:

  • Creu a diogelu swyddi sy’n gysylltiedig ag adeiladu a darparu cyfarwyddyd ar gyfer ymholiadau neu broblemau sy’n ymwneud yn benodol â thechnoleg.
  • Darparu cyfleuster galw heibio gydag ystafell newydd sbon yn cynnwys cyfrifiaduron â meddalwedd ddiweddara’r diwydiant, plotyddion, argraffwyr a chyfleusterau ffacsio.
  • Cynnig gwybodaeth a phrofiad ymarferol o ran deunyddiau, cynnyrch, prosesau, technegau, arfau, offer a chyfarpar adeiladu cyfredol a newydd.
  • Annog rhwydweithio a chydweithredu rhwng busnesau drwy gynnal digwyddiadau / arddangosfeydd / seminarau / digwyddiadau Datblygiad Proffesiynol Parhaus (DPP) ac arddangosiadau ynghylch technoleg newydd ac arferion da presennol y diwydiant adeiladu.
  • Darparu asesiadau Nwy / Olew / Trydan / Ynni cynhwysfawr a meysydd asesiadau adeiladu perthnasol eraill i gwrdd â galwadau rheoleiddiol newidiol y diwydiant.
  • Arbed amser ac arian i chi drwy ddarparu’r wybodaeth ddiweddaraf am ddeddfwriaeth newydd a systemau grant.

A wnewch chi roi gwybod i ni am eich gofynion busnes penodol er mwyn i ddigwyddiadau gael eu haddasu i ateb anghenion eich cwmni.

EuropaGreen Works Coleg Sir Gar CCTA Sustainable Construction Construction Excellence in Wales Welsh Assembley Government European Funding logo