Manteision i Fusnesau Bach a Chanolig
Help Llaw i Fusnesau Bach a Chanolig yn y Diwydiant Adeiladu
Mae prosiect newydd ar y gweill yn Sir Gâr ar hyn o bryd, a’i nod yw cefnogi busnesau bach a chanolig yn y diwydiant adeiladu.
Mae’r Ganolfan Cefnogi Technoleg a Datblygu Adeiladu wedi’i hariannu gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop (CDRhE) i gynnig cyngor rhad ac am ddim ar dechnolegau, cynnyrch, deunyddiau a rheoliadau newydd yn y diwydiant adeiladu.
Mae’r ganolfan, sydd wedi’i lleoli ar gampws Rhydaman, Coleg Sir Gâr, eisoes wedi cynorthwyo cwmnïau trwy drefnu seminarau a hyfforddiant am ddim ar faterion fel rheoli gwastraff, rheoli ansawdd dŵr, ynni cynaliadwy ac ymwybyddiaeth o asbestos. Gofynnir hefyd i gwmnïau allweddol arddangos offer a thechnolegau newydd yn y ganolfan er mwyn galluogi busnesau bach a chanolig i ddefnyddio a dysgu am beiriannau ac offer diweddaraf y diwydiant.
Yn ogystal â threfnu semniarau a diwrnodau gwybodaeth, mae’r ganolfan yn dŷ agored i fusnesau bach a chanolig sydd eisiau darganfod mwy am y newidiadau diweddaraf mewn rheoliadau, arferion a mentrau yn y diwydiant a allai fod yn llyncu llawer o amser y cwmni ond a allai, er hynny, effeithio hefyd ar y busnes. Yn sgil hyn, mae cyfleuster galw heibio ar gael yn ystod oriau swyddfa estynedig yn y ganolfan.
Annogir busnesau bach a chanolig i ddod a siarad â staff i drafod eu hanghenion – beth bynnag ydynt – bydd y ganolfan yn ceisio cynorthwyo pryd bynnag y bo’n bosibl. P’un a oes angen hyfforddiant penodol, er enghraifft ar gyfer nwy / olew / trydan / ynni solar, neu angen cefnogaeth, neu os oes pryderon am reoliadau newydd, neu angen gwybodaeth am grantiau sydd ar gael, bydd y staff yn hapus i siarad am unrhyw bryderon yr hoffai cwmnïau eu trafod. Gall staff y ganolfan hyd yn oed ddarganfod mwy o wybodaeth ac ymchwilio ar ran y cwmni.
Mae meddalwedd newydd sy’n benodol ar gyfer y diwydiant, fel rhaglenni a phlotyddion bwrdd gwaith pensaernïol, ar gael yn rhad ac am ddim yn y ganolfan. Yn sgil hynny, gobeithir y bydd SMEs yn dechrau cyfarfod a rhwydweithio â’i gilydd gan gynnig cyfleoedd i gydweithredu, gan efallai wella cyfleoedd i sicrhau mwy o gontractau.